R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn Nelyn? OAQ(4)1625(FM)
2. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fwyngloddio ym maes glo de Cymru? OAQ(4)1608(FM)
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gynlluniau gwaredu daearegol yng Nghymru? OAQ(4)1621(FM)W
4. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog egluro polisi Llywodraeth Cymru o ran lleoliadau cloddio glo brig yng Nghymru? OAQ(4)1623(FM)
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru yn 2014 i wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddementia yng Nghymru? OAQ(4)1609(FM)
6. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd tuag at gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd? OAQ(4)1612(FM)W
7. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch Llywodraeth Cymru o ran adfywio canol trefi? OAQ(4)1620(FM)W
8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o hygyrchedd lleoliadau chwaraeon yng Nghymru i bobl anabl? OAQ(4)1614(FM)
9. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol? OAQ(4)1617(FM)W
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cynghori rheng flaen? OAQ(4)1610(FM)
11. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gyn-weithwyr Remploy? OAQ(4)1611(FM)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnig i uno ystafelloedd rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)1613(FM)
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau diagnosis a sgrinio canser yng Nghymru? OAQ(4)1616(FM)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atebolrwydd y GIG yng Nghymru? OAQ(4)1618(FM)
15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn hunangynhaliol o ran ynni drwy ddulliau ynni adnewyddadwy? OAQ(4)1622(FM)